Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn croesawu’r cyfle i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig i is-bwyllgor y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â’r Bil uchod.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn credu fod y Bil ar ei ffurf bresennol, ar y cyd â'r Fframwaith Rheoleiddio diwygiedig ar gyfer cymdeithasau tai, yn ymdrin yn ddigonol â’r materion a godwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a arweiniodd at ailddosbarthu sefydliadau fel hyn yn sefydliadau sector cyhoeddus.

 Mae diffyg tai fforddiadwy difrifol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac felly mae’n croesawu bwriad y Bil i gael gwared ar unrhyw risgiau posibl a fyddai'n peryglu datblygiad tai y mae gwir eu hangen gan ein partneriaid cymdeithasau tai.